Gwasanaeth Chwarae Plant Cyngor Caerdydd ydyn ni. Rydym yn cynnig chwarae mewn sawl ffordd wahanol:
- Cynlluniau chwarae mynediad agored – sesiynau chwarae galw heibio ar draws Caerdydd.
- Cynlluniau chwarae caeëdig – sesiynau chwarae ar gyfer grwpiau penodol.
- Cynlluniau chwarae cynhwysol – sesiynau chwarae i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol.
- Cefnogi preswylwyr Caerdydd i gofrestru ar gyfer y cynllun Strydoedd Chwarae.
- Cefnogi cymunedau a chlybiau i sefydlu Cwt Chwarae ar gyfer chwarae dan arweiniad y gymuned.
- Ymgysylltu â phlant a theuluoedd ledled Caerdydd a dod â sefydliadau partner at ei gilydd ar gyfer ein dathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol blynyddol.
- Cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i greu Cymru sy’n Dda i Chwarae trwy Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd a’r cynllun gweithredu cysylltiedig.
Y Tîm Chwarae
Mae pob cynllun chwarae yn cael ei arwain gan Uwch Weithiwr Chwarae a’i gefnogi gan Drefnwyr Chwarae o’n Tîm Chwarae.
Mae pob aelod o’r tîm yn gymwys i lefel 2 neu 3 mewn gwaith chwarae. Mae pob aelod o staff yn dal tystysgrif gwiriad manwl cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae gan y Tîm Chwarae ddatblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol y flwyddyn i gadw eu gwybodaeth am chwarae a chymorth sy’n gysylltiedig â phlant yn gyfredol.
Pam mae chwarae’n bwysig
Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywyd pob plentyn ac yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol, deallusol a chorfforol. Un o rannau pwysicaf chwarae plentyn yw y gallan nhw ddewis y lefel y bydd oedolion yn cymryd rhan yn ei chwarae ac efallai y bydd adegau pan nad oes angen ar y plentyn nac eisiau i oedolyn gymryd rhan.
Mae’r hawl i chwarae yn cael ei warchod gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae Erthygl 31 o’r Confensiwn yn datgan “Mae gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamddena, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan yn ddirwystr yn y byd diwylliannol ac yn y celfyddydau.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werth chwarae i bob plentyn ac yn diffinio chwarae fel a ganlyn:
“Mae chwarae’n cwmpasu ymddygiad plant sy’n cael ei ddewis yn rhydd, ei gyfarwyddo’n bersonol a’i ysgogi o’r tu mewn. Ni chaiff ei wneud ar gyfer nod na gwobr allanol ac mae’n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i’r gymdeithas lle maen nhw’n byw.”
(Cymru: gwlad sy’n dda i chwarae, tudalen 16)
Gallwch ddarllen y ddogfen lawn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd
Mae’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (ADCCh) yn ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn ei ardal.
Mae Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn rhan o agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i gynnwys ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (adran 11).
Rydym wedi cwblhau asesiad bob tair blynedd ers 2013. Rydym yn gweithio gydag adrannau awdurdodau lleol eraill, sefydliadau partner a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi datblygiad ADCCh Caerdydd ac amlygu gwerth hawl plant i chwarae.
Er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o gyfleoedd chwarae yng Nghaerdydd rydym yn casglu adborth gan bobl a phobl ifanc. Gallwch leisio’ch barn.
Rydym yn gweithio ar ein Hasesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar gyfer 2025.