Cymerwch ran

Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau newydd i wirfoddoli!

Mae ein gweithwyr chwarae yn darparu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant 5 i 14 oed yng Nghaerdydd.

Mae ein cyfleoedd chwarae yn cynnwys:

  1. Cynlluniau chwarae mynediad agored – sesiynau chwarae galw heibio ar draws Caerdydd.
  2. Cynlluniau chwarae caeëdig – sesiynau chwarae ar gyfer grwpiau penodol.
  3. Cynlluniau chwarae cynhwysol – sesiynau chwarae i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol.
  4. Prosiectau chwarae megis Strydoedd Chwarae, cytiau chwarae a chwarae rhannau rhydd mewn ysgolion.

Pam gwirfoddoli?

Volunteering gives you the opMae gwirfoddoli yn rhoi’r cyfle i chi:

  • wneud gwahaniaeth yn y gymuned,
  • profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc,
  • magu hyder,
  • ennill sgiliau a gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd ymarferol, a
  • manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi.

Gallwch ofyn am weithio mewn lleoliad penodol neu ennill profiad ar draws amrywiaeth eang o gynlluniau chwarae.

Beth i’w ddisgwyl o wirfoddoli?

Byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn tîm o weithwyr chwarae proffesiynol.

Byddwch yn cyflwyno sesiynau chwarae i blant 5 i 14 oed ledled Caerdydd.

Mae sesiynau chwarae yn cael eu cynnal y tu mewn a’r tu allan. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn helpu i redeg amrywiaeth o weithgareddau o fodelu sothach a chwarae rôl i lawer o chwarae blêr.

Rhaid i chi fod dros 18 oed.

Byddwn yn cynnal gwiriad manwl GDG.

Bydd angen i chi roi enw a manylion cyswllt dau ganolwr annibynnol. Ni all canolwyr fod yn aelodau o’ch teulu.

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli.

Sharon

Roedd cwblhau’r L2APP yn ddiddorol, yn atyniadol ac yn hwyl.  Fe ddysgodd i mi pa mor bwysig yw chwarae i blant.  Fe wnes i fwynhau gweithio fel Gweithiwr Chwarae’r Haf yn fawr gan fod gen i dîm anhygoel a wnaeth fy nghroesawu o’r dechrau.  Roedd y plant y gwnaethom ni gyfarfod â nhw yn anhygoel ac roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ein sesiynau chwarae bob wythnos. Mae gweithio fel gweithiwr chwarae wedi rhoi persbectif newydd i mi oherwydd nawr rwy’n camu nôl ac yn rhoi’r dewis a’r rhyddid i blant chwarae heb ymyrraeth.

Cyfleoedd gwaith chwarae yn ystod y gwyliau

Yn ystod gwyliau ysgol, rydym bob amser yn chwilio am weithwyr chwarae dros dro, i gefnogi ein cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau.  Mae gweithwyr chwarae yn ystod y gwyliau hefyd yn cefnogi ein sesiynau chwarae ar ôl ysgol o bryd i’w gilydd yn ystod y tymor.

Mae cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau yn ffordd wych o roi cynnig ar waith chwarae fel proffesiwn.

Bydd hyfforddiant gwaith chwarae llawn yn cael ei ddarparu gan ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae achrededig. 

Mae rhai o’n Gweithwyr Chwarae yn ystod y gwyliau yn dychwelyd bob gwyliau gan eu bod wrth eu bodd yn chwarae gymaint!