Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgynghori â phlant a phobl ifanc, er enghraifft:
- Arsylwi sesiynau chwarae
- Gwrando
- Trafodaethau anffurfiol
- Byrddau stori
- Gweithgareddau cydweithredol
- Gemau grŵp
- Holiaduron ar-lein
Cynhelir ymgynghoriadau hefyd o fewn sesiynau chwarae dyddiol i sefydlu rheolau sylfaenol, gweithgareddau ac i gasglu adborth ar adnoddau ar gyfer diddordebau chwarae yn y dyfodol.
Rydym yn ystyried pob plentyn yn arbenigwyr yn eu chwarae. Gallan nhw wneud penderfyniadau ynghylch sut a phryd maen nhw’n hoffi chwarae.
Mae’r ymgynghoriadau yn cefnogi ein hasesiad digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Ymgynghoriadau Cyfredol
Nid oes unrhyw ymgynghoriadau ar hyn o bryd
Ymgynghoriadau Blaenorol
Arolwg Chwarae Mawr Caerdydd 2024
- Cyfres o negeseuon wedi’u trefnu ar Facebook Cyngor Caerdydd.
- Wedi’u rhannu gan Facebook Gwasanaethau Chwarae Plant a Chymorth Cynnar ehangach.
- 18 gweithdy gyda dosbarthiadau blwyddyn 2 a blwyddyn 5 ar draws Ysgolion Caerdydd.
- Sesiynau chwarae cymunedol.
- Sesiynau chwarae untro yn ystod gwyliau hanner tymor.
- Wedi’i ddosbarthu o fewn y rhwydwaith Chwarae ar gyfer cyrhaeddiad ledled Caerdydd, gan gysylltu â grwpiau penodol.
Arolwg Chwarae Mawr Caerdydd 2024
Rydyn ni’n gweithio tuag at oresgyn rhwystrau i chwarae drwy’r canlynol:
- Gwella gwybodaeth am gyfleoedd chwarae a llwybrau mwy diogel i gael mynediad at ddarpariaeth chwarae.
- Mynediad pellach at gyfleoedd chwarae cynhwysol ac ystyrlon.
- Gwella presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i ardaloedd chwarae lleol.
- Cydweithio’n well; ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc, gan sicrhau pontio mwy esmwyth.
Arolwg Chwarae Mawr Caerdydd 2021
Roedd yr arolwg ar gael i bob plentyn drwy’r ffyrdd canlynol:
- Llwyfannau dysgu ar-lein mewn ysgolion
- Gwasanaeth addysg y tu allan i’r ysgol
- Llety â chymorth
- Grwpiau teithwyr sipsiwn
- Grwpiau ieuenctid
- Sesiynau chwarae yn yr ysbyty
- Gofalwyr ifanc
Rydym yn gweithio ar fynd i’r afael â rhwystrau i chwarae, fel cyflwyno sesiynau chwarae mewn ardaloedd a nodwyd a datblygu mentrau fel Siediau Chwarae a Strydoedd Chwarae. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu cymunedau i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwarae.
Holiadur Covid
Cynhaliwyd yr holiadur i blant a phobl ifanc mewn ymateb i bandemig Covid 19. Roedd yn cynnwys cwestiynau’n ymwneud â:
- Sut roedd plant yn teimlo yn ystod y cyfnod clo
- A fu effaith ar eu hamser chwarae
- Pa mor ddiogel oedden nhw’n teimlo
- A oedden nhw’n gallu chwarae yn eu hardaloedd arferol.
Mewn ymateb i’r holiadur, roeddem yn gallu mapio meysydd anghenion chwarae a darparu pecynnau chwarae i rai cymunedau a nodwyd. Gwnaethom gyflwyno sesiynau chwarae mewn ardaloedd newydd, gan ddilyn yr holl ganllawiau diogelwch a oedd ar waith ar y pryd.

