Diwrnod chwarae cenedlaethol

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst, wedi’i gydlynu gan Playboard Gogledd Iwerddon, Play Scotland, Play England, a Chwarae Cymru.

Rhagor o wybodaeth am
ymgyrch
.

Rydym yn dathlu Diwrnod Chwarae bob blwyddyn i ddangos pam mae chwarae’n hanfodol i iechyd, lles a datblygiad plant. Mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod plant yn mwynhau eu plentyndod.

Bob blwyddyn rydym yn dod at ein gilydd ac yn uno partneriaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i ymgyrchu dros hawl plant i chwarae.

Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae blaenorol wedi eu cynnal ym Mharc Fictoria, Maes Hamdden Parc y Rhath, Caeau Llandaf ac yn fwy diweddar mewn partneriaeth â thîm Caerdydd sy’n Dda i Blant yn nigwyddiad Haf o Hwyl, Canolfan Ddinesig Caerdydd.

Bydd y dathliad Diwrnod Chwarae nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 6 Awst 2025.  Bydd rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen Facebook.

Daeth 1,200 o blant ac aelodau o’r teulu i’n digwyddiad diwrnod chwarae 2024 ym Mharc y Mynydd Bychan, Caerdydd. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl gyda:

  • modelu sothach,
  • adrodd straeon,
  • chwaraeon,
  • go-certi,
  • cegin fwd,
  • chwarae synhwyraidd,
  • celf a chrefft,
  • hwyl chwyddadwy, a llawer mwy!

Beth ddywedodd pobl am y digwyddiad:

  • “Dim ond am awr roedden ni’n bwriadu aros ond arhoson ni drwy’r amser gan nad oedd fy mhlant eisiau gadael!” Rhiant
  • “Popeth! Roedd yn ddigwyddiad gwych.  Llwyth yn mynd ymlaen i’r plant, llwyth o bethau am ddim. Roedd pawb mor gyfeillgar a brwdfrydig.”
  • “Ces i ddiwrnod llawn hwyl. Y crysau T oedd y peth gorau ond ro’n i hefyd yn hoffi edrych rownd a chwarae gyda phopeth.” – Elsie, 6 oed
  • “Cafodd y plant gymaint o hwyl a llawer o weithgareddau i ddewis ohonynt.”
  • “Roedd y plant yr aethon ni â nhw wedi cael amser hyfryd. Roedd gemau llawn hwyl iddyn nhw eu chwarae, llawer o weithgareddau iddyn nhw eu gwneud.”
  • “Fe wnaeth ein plentyn 4 oed fwynhau llawer o weithgareddau’n fawr, gan gynnwys y ddinas gardfwrdd, y rholiwr peli pren, y chwarae tywod cinetig a’r sleid iâ.” Rhiant
  • “Plant a’u hoedolion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad cymunedol mawr yn gwneud gweithgareddau na fyddent fel arfer yn cael cyfle i’w gwneud.” – Adborth Sefydliad Partner