Mae cynlluniau chwarae caeëdig ar gyfer grwpiau penodol, megis:
- ysgolion
- y rhai sy’n byw mewn llety â chymorth
Efallai na fydd y grwpiau hyn yn gallu mynychu ein sesiynau chwarae mynediad agored, felly rydym wedi sefydlu sesiynau llai sy’n cynnig profiad chwarae mwy cefnogol.
Os oes gan eich plentyn anabledd neu os oes ganddo anghenion cymorth penodol, edrychwch ar ein gwybodaeth am gyfleoedd chwarae cynhwysol.
Sesiynau chwarae llety â chymorth
Rydym yn darparu sesiynau chwarae mewn lleoliadau llety â chymorth yn y ddinas. Mae’r sesiynau yn rhoi lle ac amser i blant a theuluoedd i ddod i adnabod ei gilydd. Gall hyn helpu i feithrin perthnasoedd a chyfeillgarwch rhwng preswylwyr.
Mae’r sesiynau’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc chwarae. Mae cyfle i’r plant a’r rhieni gymdeithasu, dysgu pethau newydd a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Gallai ein sesiynau gynnwys:
- coginio,
- adeiladu ffau,
- gwnïo,
- gwisgo i fyny,
- chwarae rhannau rhydd (gan ddefnyddio deunyddiau dynol a naturiol i adeiladu, trin ac archwilio trwy ddychymyg a chreadigrwydd)
- eitemau gemau a chwaraeon,
- creu gemwaith a chardiau,
- mygydau,
- modelu clai a sothach.
Chwarae yn yr awyr agored mewn ysgolion
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd yng Nghaerdydd, gan gynnig cefnogaeth a darpariaeth dysgu awyr agored drwy chwarae.
Gall y prosiectau weithio ar draws pob grŵp blwyddyn, yn dibynnu ar anghenion yr ysgolion unigol. Mae’r prosiectau’n darparu rhaglen amrywiol o gyfleoedd chwarae gan ddefnyddio adnoddau naturiol a rhannau rhydd. Mae’r prosiectau’n ategu cwricwlwm yr ysgol yn ogystal â chefnogi a chynyddu cyfleoedd chwarae.