Y Tîm Chwarae
The Play Team

Chwarae cynhwysol

Mae ein Tîm Chwarae Cynhwysol yn cynnig cyfleoedd chwarae i blant 5 i 14 oed ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Er bod llawer o’n sesiynau yn ceisio bod yn hygyrch ar gyfer amrywiaeth o anghenion, rydym yn cydnabod y gallai rhai plant elwa o brofiadau chwarae amgen.

Mae llai o bobl a dim cerddoriaeth yn ein sesiynau hamddenol. Rhaid i rieni neu ofalwyr aros.

Yn ystod gwyliau’r ysgol, rydym yn cynnig sesiynau chwarae i blant ag anghenion cymorth uwch. Mae’r sesiynau wedi’u dylunio’n ofalus i ddiwallu anghenion y plant sy’n mynychu ac mae ganddynt gymarebau staff i blant uwch.

Cysylltwch â ni i drafod anghenion eich plentyn. Gallwn eich helpu i ddewis y sesiynau chwarae sy’n iawn i’ch plentyn.

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Cyfleoedd chwarae eraill

Rydym yn ariannu sesiynau aros a chwarae ar ddydd Gwener yn ystod y rhan fwyaf o wyliau ysgol yn Cwtch Together. Sesiynau ‘chwarae gyda’i gilydd’ yw’r rhain lle gall teuluoedd chwarae ochr yn ochr â’u cyfoedion, sgwrsio â rhieni a gofalwyr eraill, a gwneud ffrindiau.

Gallwch hefyd gael gwybod am eu gwasanaethau eraill sydd ar gael i chi a’ch teulu.

Mae Clwb Carco yn gweithredu cynllun gofal chwarae am ddim yn ystod y gwyliau. Gallwn gyfeirio nifer cyfyngedig o blant at y cynllun gofal chwarae hwn yn ystod y rhan fwyaf o wyliau.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Sefydliadau eraill sy’n cefnogi plant ag anghenion ychwanegol neu anableddau

Prosiect chwarae anabl yn Grangetown yw Cwtch Together sy’n hyrwyddo cyfleoedd chwarae a chymdeithasu cynhwysol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd.

Mae’r prosiect yn brosiect aros a chwarae lle bydd rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am y plentyn bob amser.  Mae staff a gwirfoddolwyr wrth law i arwain cyfleoedd chwarae i’r rhai sy’n dod.

Maen nhw’n cynnal sesiynau wythnosol ar ddydd Sadwrn lle gall plant a theuluoedd gadw lle i’w mynychu. Mae aelodau o staff a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi mewn cyfleoedd chwarae, cymorth cyntaf a diogelu.

Dysgwch fwy am Cwtch Together.

Elusen sy’n darparu cymorth cyfoedion a gwasanaethau allgymorth i deuluoedd sy’n mynd trwy’r broses ddiagnostig yw AP Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn rhieni i blant niwroamrywiol a gallan nhw roi gwybodaeth gyflawn i rieni a gofalwyr.

Gall teuluoedd gael mynediad i amrywiaeth eang o weithdai, gweithgareddau, hyfforddiant a sesiynau hwyl i’r teulu ar ôl cofrestru gyda’r grŵp.

Dysgwch fwy am AP Cymru.

Cysylltu â ni