Prosiect Siediau Chwarae

Mae’r prosiect Siediau Chwarae yn cael ei redeg mewn partneriaeth â siop sborion ReCreate. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect. 

Nod prosiect Siediau Chwarae yw darparu profiadau chwarae i blant dan arweiniad y gymuned. 

Mae siediau yn cael eu cynnal:

  • Mewn ardaloedd cymunedol
  • Ar dir ysgol
  • Mewn clybiau
  • Mannau gwyrdd 
Cynhwysydd llongau wedi'i beintio â dail lliwgar mawr iawn

Mae’r Siediau Chwarae yn cynnwys cynhwysydd metel 2x2m, sy’n gartref i ystod o adnoddau chwarae rhannau rhydd, er enghraifft pibellau, pren, rhannau cyfrifiadurol wedi’u hailgylchu, casgenni, cratiau, rhaffau, rhwydi, teiars a ffabrig, gan gynnig dewis chwarae amgen newidiol.

Byddwch chi hefyd yn elwa ar:

  • Hyfforddiant mewn rhannau rhydd
  • Hyfforddiant budd risg
  • Hyfforddiant chwarae
  • Cyhoeddiad pecyn cymorth Chwarae Cymru
  • Adnoddau ychwanegol oddi wrth ReCreate
  • Sied Chwarae wedi’i bersonoli a’i baentio gan artist lleol

Bwriad prosiect ‘Play Shacks’ yw bod yn ased cymunedol. Gall mudiadau gwirfoddol, darpariaethau chwarae a grwpiau cymunedol wneud cais.

Ar hyn o bryd mae 5 Sied Chwarae wedi’u sefydlu mewn safleoedd o amgylch Caerdydd: