Mae’r cynllun yn darparu lle i blant chwarae’n egnïol ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cymdeithasu a chyfeillgarwch. Gall cymdogion weithio gyda’i gilydd i sefydlu stryd chwarae.
Gallwch wneud cais am orchymyn chwarae stryd dros dro i gau eich stryd am 2 awr y mis fel y gall plant chwarae’n rhydd, yn yr awyr agored ac yn agos at eu cartref.
Yr hyn mae pobl yn ei ddweud am strydoedd chwarae:
- Dwi’n dwli ar chwarae ar y stryd achos bod pawb yn gallu chwarae gyda’r rhaffau sgipio a dwi’n gallu reidio fy sgwter neu fy meic yn fy stryd heb boeni – Bobby, 8 oed
- Rydyn ni’n dwlu ar y peli ewyn ac yn reidio ein beiciau yn y stryd – Reggie ac Owen, 8 oed
- Mae chwarae ar y stryd wedi helpu i ddatblygu ysbryd y gymuned. Mae’n hyfryd gweld pawb allan ar y stryd yn sgwrsio ac yn cael siocled poeth. – Stiward Strydoedd Chwarae
- Mae’r plant wrth eu boddau yn chwarae ar y stryd ac maent mor hapus pan maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd y tu allan i’w tai. – Rhiant
Pa gymorth sydd ar gael?
Er mwyn ei gwneud yn hawdd i chi a’ch cymdogion drefnu Chwarae Stryd, byddwn yn darparu’r cymorth canlynol:
Byddwn yn cynnal Cyfarfodydd Rhwydwaith Chwarae Stryd i’r trefnwyr drafod materion a dod o hyd i atebion, ateb unrhyw gwestiynau newydd a chyflwyno awgrymiadau.
Cymorth gyda’r cais
Canllaw i asesu risg, recriwtio stiwardiaid, delio â gyrwyr ac ateb cwestiynau am y cynllun.
Ymweliad â’ch sesiwn gyntaf, er mwyn sicrhau ei bod yn rhedeg yn ddi-drafferth.
Darparu Pecyn Chwarae Stryd gan gynnwys arwyddion, conau, siacedi llachar, chwibanau a gwybodaeth i stiwardiaid a threfnwyr.
Negeseuon atgoffa i ail-ymgeisio.
Cyn i chi wneud cais
Ni fydd rhai strydoedd yn addas ar gyfer y cynllun hwn, megis prif ffyrdd a llwybrau bysus. Fel arfer, strydoedd ochr a ffyrdd pengaead yw’r rhai mwyaf priodol.
Gall eich cais am orchymyn chwarae stryd dros dro gael ei wrthod os bernir y byddai’r strydoedd yn anaddas neu’n achosi lefelau annerbyniol o darfu ar yr ardal leol.
Defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y dudalen hon i weld a yw eich stryd yn addas.
Cynllunio
Bydd angen i chi ennyn cefnogaeth eich cymdogion ar gyfer chwarae ar y stryd cyn gwneud cais am orchymyn chwarae stryd dros dro. Mae hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr ofyn cwestiynau a datrys unrhyw gwestiynau a allai fod ganddyn nhw.
Dylech ystyried yr amser a’r diwrnod gorau i gau eich stryd. Mae’n rhaid ei gynnal ar yr un amser a’r un diwrnod bob mis.
Bydd angen i chi ofyn a fyddai unrhyw breswylwyr yn hoffi cymryd rhan i helpu i drefnu sesiynau parhaus, neu i fod yn stiward ar gyfer y sesiynau chwarae stryd.
Parcio a symud traffig
Bydd preswylwyr yn cael dod i mewn neu adael y stryd tra bod chwarae ar y stryd ar y gweill. Bydd stiwardiaid yn arwain preswylwyr i mewn neu allan o’r stryd.
Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod gennych ddigon o stiwardiaid i weithredu ardal chwarae stryd yn ddiogel. Mae angen dau stiward ym mhob pen yr ardal chwarae stryd. Efallai y bydd angen stiwardiaid ychwanegol yn dibynnu ar gynllun y stryd.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am orchymyn chwarae stryd dros dro, cysylltwch â ni.
Ar ôl derbyn eich ffurflen byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod a yw’ch stryd yn addas a beth i’w wneud nesaf.