Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau canlynol:
- Ffurflenni cofrestru ar gyfer Cynllun Chwarae
- Ffurflenni Cysylltu â Ni
- Llyfr Amdanaf I
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolydd Data at ddibenion casglu data. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn casglu’r data canlynol:
- Enw’r rhiant/gwarcheidwad – at ddibenion cysylltu a chysylltu mewn argyfwng
- Rhif ffôn y rhiant/gwarcheidwad – at ddibenion cysylltu mewn argyfwng
- Enw’r plentyn
- Dyddiad geni’r plentyn
- Cyfeiriad y plentyn
- Rhywedd y plentyn
- Ysgol y plentyn
- Ethnigrwydd y Plentyn
- Cydsyniad i roi bwyd.
- Cydsyniad meddygol y rhiant/gwarcheidwad – i gydsynio i’ch plentyn gael triniaeth feddygol os oes angen.
- Enw gweithiwr cymdeithasol neu ymwelydd iechyd arbenigol.
- Rhif ffôn gweithiwr cymdeithasol neu ymwelydd iechyd arbenigol.
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn casglu’r data categori arbennig canlynol at ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth rhwng grwpiau o bobl a nodwyd mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda’r nod o alluogi hyrwyddo neu gynnal cydraddoldeb o’r fath.
- Data ethnigrwydd
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn prosesu data categori arbennig dan Erthygl 9 (2): (g) Rhesymau o fudd sylweddol i’r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) dan Atodlen 1 amod 8: Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn casglu’r data categori arbennig canlynol i gefnogi’r plentyn i fynychu’r cynllun yn ddiogel, i sicrhau bod y cynllun yn briodol i fodloni anghenion y plentyn ac i ystyried unrhyw gymorth ychwanegol a allai fod ei angen:
- Data anabledd
- Math o amhariad y plentyn
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn prosesu data categori arbennig dan Erthygl 9 (2): (g) Rhesymau o fudd sylweddol i’r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) dan Atodlen 1 amod 6: Cefnogi unigolion ag anabledd neu gyflwr meddygol penodol.
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn casglu’r data canlynol:
- Cydsyniad gan y rhiant/gwarcheidwad i dynnu lluniau o’r plentyn.
- Cydsyniad i roi bwyd.
- Angen diwylliannol neu grefyddol y plentyn i gefnogi anghenion diwylliannol neu grefyddol gan gynnwys gofynion deietegol.
- Manylion am anghenion gofal personol neu anghenion meddygol y plentyn.
dan Erthygl 9 (2): (a) Cydsyniad penodol.
Tynnu cydsyniad yn ôl: Os hoffech chi dynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â chwaraeplant@caerdydd.gov.uk a byddwn yn ymdrin â’ch cais cyn gynted ag y bo modd.
Ffurflenni Gais i Wirfoddolwyr:
- Enw’r ymgeisydd
- Cyfeiriad yr ymgeisydd
- Rhif ffôn yr ymgeisydd
- Cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd
- Rhywedd yr ymgeisydd
- Dyddiad geni’r ymgeisydd
- Y person i gysylltu ag ef mewn argyfwng: Enw, cyfeiriad, rhif ffôn
- Manylion geirdaon yr ymgeisydd: gan gynnwys manylion dau unigolyn, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost.
Cesglir hyn at ddibenion:
- ymateb i ymholiadau, ceisiadau am ffurflenni cais i wirfoddolwyr neu geisiadau am wybodaeth am ein gwasanaeth
- rhoi gwybodaeth i chi am y cynlluniau chwarae a newidiadau i wasanaethau.
- rhoi gwybodaeth angenrheidiol i staff Chwarae am eich plentyn, tra’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ac at ddibenion cysylltu mewn argyfwng.
Mae’r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio’r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae’r prosesu’n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.
Canllaw statudol: Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych yn rhoi’r data rydym yn ei gasglu yn uniongyrchol i’r Gwasanaethau Chwarae Plant. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data yn yr achosion canlynol:
- Pan fyddwch yn cofrestru neu’n holi ar-lein am unrhyw un o’n gwasanaethau.
- Er mwyn mynd i’r afael ag ymholiadau gennych chi ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosib sy’n ymwneud â’n gwasanaeth.
- Pan fyddwch yn cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
- Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu’n edrych arni trwy gwcis eich porwr.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn casglu eich data fel y gallwn:
- Ymateb i ymholiadau neu geisiadau am wybodaeth am ein gwasanaeth.
- Cysylltu â chi gyda gwybodaeth am y gwasanaethau chwarae sy’n effeithio arnoch chi.
- Rhoi gwybodaeth angenrheidiol i staff Chwarae am eich plentyn tra’n cymryd rhan mewn gweithgareddau.
- Cysylltu â chi mewn argyfwng.
- Rhoi cymorth cyntaf os oes angen.
- Sicrhau bod gofynion deietegol yn cael eu dilyn.
- Prosesu ceisiadau gan wirfoddolwyr.
Sefydliadau y gallwn ni rannu eich data personol â nhw
O bryd i’w gilydd byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant ein helpu i gynnal ein dyletswyddau, ein hawliau a’n disgresiynau mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarparwn. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny’n prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau. Ym mhob achos, byddwn dim ond yn rhannu data i’r graddau y credwn fod angen yr wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.
Caiff unrhyw Wybodaeth Bersonol sydd gennym dim ond ei datgelu, gyda diben rhesymol, i:
- Ein staff – pan fydd yr wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
- Y Llysoedd – dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
Sut rydym yn storio eich data?
Mae’r Gwasanaethau Chwarae Plant yn storio eich data yn ddiogel ar gyriannau diogel y Cyngor. Dim ond staff Cyngor Caerdydd sydd â mynediad at y systemau hyn.
Bydd y Gwasanaethau Chwarae Plant yn cadw eich data am y cyfnod canlynol. Ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben, byddwn yn dileu eich data o holl yrwyr cyngor diogel y Gwasanaethau Chwarae Plant.
Data cysylltu â ni:
- Ymholiadau cyffredinol neu gwestiynau am ein gwasanaeth:
- 1 flwyddyn
- Gwirfoddolwyr: 6 mlynedd (25 mlynedd lle mae’r gweithiwr wedi gweithio gyda phlant)
- Cwynion: 3 – 6 blynedd yn dibynnu ar a oes elfen gyfreithiol.
- Data ffurflenni cofrestru: am 3 blynedd ar ôl i’r plentyn adael y gwasanaeth neu pan fydd y data yn cael ei ddisodli.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai’r Gwasanaethau Chwarae Plant wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu
Mae gennych hawl i wrthwynebu i’r Gwasanaethau Chwarae Plant brosesu eich data personol, dan rai amodau.#
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Chwarae Plant drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk
Ffoniwch ni ar: 029 20873911.
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae’n bosib y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig drwy gwcis neu dechnoleg debyg.
Mae mwy o wybodaeth am cwcis ar wefan All About Cookies.
Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
Mae gwefan Ein Cwmni yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 3 Medi 2024.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Gwasanaethau Chwarae Plant, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw’r Gwasanaethau Chwarae Plant wedi mynd i’r afael yn briodol â’ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.