Rysait toes

Rydych chi angen:

  • Bowlen
  • Llwy mawr
  • Cwpan

Cynhwysion:

  • 2 cwpan o flawd
  • 1 cwpan o halen
  • 2 llwy bwrdd o olew llysiau
  • 1 i 2 cwpan o ddŵr berwedig
  • 1 llwy bwrdd neu 1 pecyn o Cream of Tartar (ddim yn hanfodol ond mae yn helpu y toes cadw am hirach)

Cynhwysion dewisiol:

  • Lliw bwyd
  • Gliter
  • Perlysiau
  • Powdr siolced

Cyfarwyddiadau toes:

  1. Cymysgwch y cynhwysion sych i mewn i’ch bowlen – flawd, halen, cream of tartar (dewisiol).
  2. Wedyn ychwanegwch eich cynhwysion dewisiol.
  3. Ychwangegu olew i’ch bowlen.
  4. Llenwch eich cwpan gyda dŵr berwedig ac unrhyw cynhwysion gwlyb e.e. lliw bwyd.
  5. Cymysgwch y dŵr i fewn i’r cymysgedd, ychwanegu tipyn fach ar y tro. Os ydy’r cymysgedd yn sych – ychwanegwch fwy o ddŵr. Os ydy’r cymysgedd yn wlyb, ychwanegwch fwy o flawd.

Cadwch eich toes mewn cynhwysydd aerglos neu fag bwyd clo sip yn yr oergell a bydd yn para.