Rydych chi angen:
- Bowlen
- Llwy mawr
- Cwpan

Cynhwysion:
- 2 cwpan o flawd
- 1 cwpan o halen
- 2 llwy bwrdd o olew llysiau
- 1 i 2 cwpan o ddŵr berwedig
- 1 llwy bwrdd neu 1 pecyn o Cream of Tartar (ddim yn hanfodol ond mae yn helpu y toes cadw am hirach)
Cynhwysion dewisiol:
- Lliw bwyd
- Gliter
- Perlysiau
- Powdr siolced
Cyfarwyddiadau toes:
- Cymysgwch y cynhwysion sych i mewn i’ch bowlen – flawd, halen, cream of tartar (dewisiol).
- Wedyn ychwanegwch eich cynhwysion dewisiol.
- Ychwangegu olew i’ch bowlen.
- Llenwch eich cwpan gyda dŵr berwedig ac unrhyw cynhwysion gwlyb e.e. lliw bwyd.
- Cymysgwch y dŵr i fewn i’r cymysgedd, ychwanegu tipyn fach ar y tro. Os ydy’r cymysgedd yn sych – ychwanegwch fwy o ddŵr. Os ydy’r cymysgedd yn wlyb, ychwanegwch fwy o flawd.
Cadwch eich toes mewn cynhwysydd aerglos neu fag bwyd clo sip yn yr oergell a bydd yn para.






