Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau newydd i wirfoddoli!
Mae ein gweithwyr chwarae yn darparu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant 5 i 14 oed yng Nghaerdydd.
Mae ein cyfleoedd chwarae yn cynnwys:
- Cynlluniau chwarae mynediad agored – sesiynau chwarae galw heibio ar draws Caerdydd.
- Cynlluniau chwarae caeëdig – sesiynau chwarae ar gyfer grwpiau penodol.
- Cynlluniau chwarae cynhwysol – sesiynau chwarae i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol.
- Prosiectau chwarae megis Strydoedd Chwarae, cytiau chwarae a chwarae rhannau rhydd mewn ysgolion.
Pam gwirfoddoli?
Volunteering gives you the opMae gwirfoddoli yn rhoi’r cyfle i chi:
- wneud gwahaniaeth yn y gymuned,
- profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc,
- magu hyder,
- ennill sgiliau a gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd ymarferol, a
- manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi.
Gallwch ofyn am weithio mewn lleoliad penodol neu ennill profiad ar draws amrywiaeth eang o gynlluniau chwarae.
Beth i’w ddisgwyl o wirfoddoli?
Byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn tîm o weithwyr chwarae proffesiynol.
Byddwch yn cyflwyno sesiynau chwarae i blant 5 i 14 oed ledled Caerdydd.
Mae sesiynau chwarae yn cael eu cynnal y tu mewn a’r tu allan. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn helpu i redeg amrywiaeth o weithgareddau o fodelu sothach a chwarae rôl i lawer o chwarae blêr.
Pethau i’w hystyried cyn i chi ymgeisio
Rhaid i chi fod dros 18 oed.
Byddwn yn cynnal gwiriad manwl GDG.
Bydd angen i chi roi enw a manylion cyswllt dau ganolwr annibynnol. Ni all canolwyr fod yn aelodau o’ch teulu.
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli.
Sharon
Roedd cwblhau’r L2APP yn ddiddorol, yn atyniadol ac yn hwyl. Fe ddysgodd i mi pa mor bwysig yw chwarae i blant. Fe wnes i fwynhau gweithio fel Gweithiwr Chwarae’r Haf yn fawr gan fod gen i dîm anhygoel a wnaeth fy nghroesawu o’r dechrau. Roedd y plant y gwnaethom ni gyfarfod â nhw yn anhygoel ac roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ein sesiynau chwarae bob wythnos. Mae gweithio fel gweithiwr chwarae wedi rhoi persbectif newydd i mi oherwydd nawr rwy’n camu nôl ac yn rhoi’r dewis a’r rhyddid i blant chwarae heb ymyrraeth.
Cyfleoedd gwaith chwarae yn ystod y gwyliau
Yn ystod gwyliau ysgol, rydym bob amser yn chwilio am weithwyr chwarae dros dro, i gefnogi ein cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Mae gweithwyr chwarae yn ystod y gwyliau hefyd yn cefnogi ein sesiynau chwarae ar ôl ysgol o bryd i’w gilydd yn ystod y tymor.
Mae cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau yn ffordd wych o roi cynnig ar waith chwarae fel proffesiwn.
Bydd hyfforddiant gwaith chwarae llawn yn cael ei ddarparu gan ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae achrededig.
Mae rhai o’n Gweithwyr Chwarae yn ystod y gwyliau yn dychwelyd bob gwyliau gan eu bod wrth eu bodd yn chwarae gymaint!