Cynlluniau Chwarae Gwasanaethau Chwarae Plant Hysbysiad Preifatrwydd

Mae angen rhywfaint o’ch gwybodaeth ar Gynlluniau Chwarae Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd i’ch cofrestru ar un o’r Cynlluniau Chwarae. Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio hyn yn fanylach.

Orange question mark on yellow background

Beth yw data personol a pham rydych chi’n casglu fy nata i?

Gwybodaeth amdanoch chi yw data personol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys eich enw, lle rydych chi’n byw, gwybodaeth amdanoch chi a’ch teulu ac weithiau mae angen i ni wybod gwybodaeth arbennig megis cyflyrau iechyd a allai fod gennych. Rydym angen eich data personol er mwyn i ni allu eich cofrestru ar un o’n cynlluniau chwarae. Bydd cael eich data personol yn ein helpu i roi’r cymorth mwyaf addas i chi / eich teulu.

O ble rydych chi’n ei gael a ble mae’n cael ei gadw?

Rydyn ni’n ei gael gennych chi a’ch teulu pan fyddwch chi’n cael eich cofrestru ar un o’n cynlluniau chwarae.  Rydym yn cadw eich data personol yn ddiogel, yn ein system gyfrifiadurol fewnol ddiogel. Dim ond staff Cyngor Caerdydd all ddefnyddio’r systemau hyn.

Child with question marks above her head and her arms open asking a question
Calendar with a pen and a clock

A fydd unrhyw un arall yn gweld fy nata personol i?  Pa mor hir fyddwch chi’n ei gadw?

Weithiau bydd angen i ni rannu eich data personol â sefydliadau eraill.  Enghreifftiau o hyn yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, adrannau eraill yng Nghyngor Caerdydd a sefydliadau allanol eraill. Dim ond os ydyn ni’n meddwl bod rheswm da i wneud hyn y byddwn yn gwneud hyn.

Fyddwn ni ddim yn cadw’ch gwybodaeth yn rhy hir – dim ond am y cyfnod y bydd angen i ni ei defnyddio ac ateb unrhyw gwestiynau yn y dyfodol amdani.

A oes angen i mi wneud unrhyw beth?  Oes gen i unrhyw hawliau?

Na, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Pan fyddwn yn casglu eich data personol, byddwn yn esbonio pam ein bod ei angen a’r hyn y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer fel eich bod bob amser yn gwybod.

Oes, mae gennych hawliau! Gallwch ofyn am weld eich data personol, newid data personol os yw’n anghywir ac mae gennych rai eraill. I ddeall hyn yn well, siaradwch â’ch rhiant / gwarcheidwad neu aelod o staff y cynllun chwarae.

Young girl holding a large question mark
Child looking right asking a question

Allaf i gael rhagor o wybodaeth?

Wrth gwrs, gofynnwch i aelod o staff y Cynllun Staff i’ch cyfeirio at bwy all helpu.

Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Data Cyngor Caerdydd drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk Gall eich rhiant / gwarcheidwad weld hysbysiad preifatrwydd llawn Cyngor Caerdydd gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:  Hysbysiad Preifatrwydd (caerdydd.gov.uk)