Diwrnod chwarae cenedlaethol

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst, wedi’i gydlynu gan Playboard Gogledd Iwerddon, Play Scotland, Play England, a Chwarae Cymru.

Rhagor o wybodaeth am
ymgyrch
.

Rydym yn dathlu Diwrnod Chwarae bob blwyddyn i ddangos pam mae chwarae’n hanfodol i iechyd, lles a datblygiad plant. Mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod plant yn mwynhau eu plentyndod.

Bob blwyddyn rydym yn dod at ein gilydd ac yn uno partneriaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i ymgyrchu dros hawl plant i chwarae.

Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae blaenorol wedi eu cynnal ym Mharc Fictoria, Maes Hamdden Parc y Rhath, Caeau Llandaf ac yn fwy diweddar mewn partneriaeth â thîm Caerdydd sy’n Dda i Blant yn nigwyddiad Haf o Hwyl, Canolfan Ddinesig Caerdydd.

Bydd y dathliad Diwrnod Chwarae nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 6 Awst 2025.  Bydd rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen Facebook.

Mynychodd dros 1,000 o blant ac aelodau o’r teulu ein digwyddiad Diwrnod Chwarae 2025 yng Nghaeau Canolfan Hamdden y Dwyrain.  Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl gyda:

  • Dinas cardfwrdd
  • Cegin fwd
  • Chwarae anniben 
  • Crefftau
  • Sports
  • Gemau’r ardd
  • Chwarae rôl
  • Sgiliau Syrcas

Beth ddywedodd pobl am y digwyddiad:

  • “Roedd wedi’i osod yn dda iawn gyda llawer o amrywiaeth o weithgareddau chwarae.”
  • “Dwlu ar y gosodiad a’r cysyniad – cafodd y plant hwyl.”
  • “Fe wnaethon ni fwynhau’r digwyddiad yn fawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at yr un nesaf.”
  • “Diolch yn fawr i bawb sy’n ei drefnu. Hyfryd gweld digwyddiadau cymunedol sydd am ddim i deuluoedd!”

Roedd y partneriaid cymunedol yn cynnwys: 

  • Gofal Maeth Cymru Met Caerdydd
  • Band Samba
  • Telynor
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Menter Caerdydd
  • Fiery Jacks

Partneriaid Cyngor Caerdydd:

  • Dechrau’n Deg
  • Cymorth Cynnar Rhianta
  • DGRhC
  • Llyfrgelloedd a Hybiau
  • Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth
  • Gofalwyr Ifanc y Cyngor
  • Dinas sy’n Dda i Blant
  • Gwasanaethau Ieuenctid

Bydd y dathliad Diwrnod Chwarae nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Awst 2026.  Bydd rhagor o fanylion ar gael yma ac yn cael eu rhannu ar ein tudalen Gwasanaethau Chwarae i Blant ar Facebook

Diwrnod Chwarae 2026

Dyddiad:  5 Awst 2026

Amser: I’w gadarnhau

Cyfeiriad y Digwyddiad: I’w gadarnhau

Llwybrau Bysus: I’w gadarnhau

Dathlwch Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad llawn hwyl i bob oedran!

Mwynhewch brofiadau chwarae blêr, creadigol ac egnïol.

Gallwch gwrdd â phartneriaid cymunedol lleol a chydweithwyr Cymorth Cynnar, a fydd wrth law i rannu gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan Gyngor Caerdydd i deuluoedd.