Dweud eich dweud

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgynghori â phlant a phobl ifanc, er enghraifft:

  • arsylwi sesiynau chwarae
  • gwrando
  • trafodaethau anffurfiol
  • byrddau stori
  • gweithgareddau cydweithredol
  • gemau grŵp
  • holiaduron ar-lein

Cynhelir ymgynghoriadau hefyd o fewn sesiynau chwarae dyddiol i sefydlu rheolau sylfaenol, gweithgareddau ac i gasglu adborth ar adnoddau ar gyfer diddordebau chwarae yn y dyfodol.

Rydym yn ystyried pob plentyn yn arbenigwyr yn eu chwarae. Gallan nhw wneud penderfyniadau ynghylch sut a phryd maen nhw’n hoffi chwarae.

Mae’r ymgynghoriadau yn cefnogi ein hasesiad digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Ymgynghoriadau Cyfredol

Nid oes unrhyw ymgynghoriadau ar hyn o bryd

Ymgynghoriadau Blaenorol

Arolwg Chwarae Mawr Caerdydd

Roedd yr arolwg ar gael i bob plentyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  • llwyfannau dysgu ar-lein mewn ysgolion,
  • gwasanaeth addysg y tu allan i’r ysgol,
  • hosteli i deuluoedd,
  • grwpiau teithwyr sipsiwn,
  • grwpiau ieuenctid,
  • sesiynau chwarae yn yr ysbyty a
  • gofalwyr ifanc.

Rydym yn gweithio ar fynd i’r afael â rhwystrau i chwarae, fel cyflwyno sesiynau chwarae mewn ardaloedd a nodwyd a datblygu mentrau fel Siediau Chwarae a Strydoedd Chwarae. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu cymunedau i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwarae. 

Holiadur Covid

Cynhaliwyd yr holiadur i blant a phobl ifanc mewn ymateb i bandemig Covid 19.  Roedd yn cynnwys cwestiynau’n ymwneud â:

  • sut roedd plant yn teimlo yn ystod y cyfnod clo
  • a fu effaith ar eu hamser chwarae
  • pa mor ddiogel oedden nhw’n teimlo
  • a oedden nhw’n gallu chwarae yn eu hardaloedd arferol.

Mewn ymateb i’r holiadur, roeddem yn gallu mapio meysydd anghenion chwarae a darparu pecynnau chwarae i rai cymunedau a nodwyd. Gwnaethom gyflwyno sesiynau chwarae mewn ardaloedd newydd, gan ddilyn yr holl ganllawiau diogelwch a oedd ar waith ar y pryd.