Y Tîm Chwarae
The Play Team

Sesiynau chwarae

Gall plant fynd yn flêr ac yn wlyb a budr o bryd i’w gilydd wrth iddynt chwarae

Mae ein timau’n cyflwyno cynlluniau chwarae mynediad agored a chynlluniau chwarae caeedig ar draws Caerdydd. Mae’r cynlluniau ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed.

Gallwch ddarganfod beth yw chwarae mynediad agored a sut mae’r sesiynau’n cael eu cynnal yn y polisi chwarae mynediad agored.

Mae ein gweithwyr chwarae yn cefnogi plant i chwarae ar eu cyflymder eu hunain a datblygu eu profiad chwarae unigol.

Os oes gan eich plentyn anghenion cymorth penodol, edrychwch ar ein gwybodaeth am gyfleoedd chwarae cynhwysol

Mae ein cynlluniau chwarae ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed.

Mae staff chwarae cymwys yn trefnu gweithgareddau chwarae, yn ogystal â darparu deunyddiau ac offer at ddefnydd chwarae.

Mae’r sesiynau chwarae yn gyfeillgar, yn ddiogel ac yn llawn hwyl. Gall plant chwarae beth bynnag fo’u cefndir diwylliannol, eu rhyw a’u crefydd. Ein nod yw darparu a chefnogi plant o bob gallu i fynychu ein cynlluniau.

Mynediad agored

Mae cynlluniau chwarae’n cael eu cynnal ar sail mynediad agored. Mae’r cynlluniau’n cynnig cyfleoedd chwarae am ddim sy’n golygu y gall plant gael eu goruchwylio  dim ond tra byddant ar y safle ac yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r cynllun.

Ni ellir cyfyngu plant a phobl ifanc i’r cynllun chwarae na’i safle na’u hatal rhag mynd a dod fel y mynnant.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd pob rhagofal i sicrhau lles eich plentyn, fel nad oes perygl iddo/iddi grwydro i ffwrdd. Ni allwn ddod â’ch plentyn adref atoch.

Cymarebau

Byddwn fel arfer yn gorfodi canllaw o 13 o blant fesul aelod o staff. Mae hyn yn unol â deddfwriaeth gyfredol. Mae hyn yn golygu y gallai fod rhaid i ni, o bryd i’w gilydd, anfon eich plentyn adref neu ofyn iddo ddychwelyd nes ymlaen pan fydd y niferoedd wedi lleihau.

Beth i’w ddisgwyl o’n sesiynau

Mae sesiynau chwarae yn gyfle i blant ddylunio eu lle chwarae eu hunain. Rydym yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau i blant ddyfeisio eu chwarae eu hunain ac ehangu eu dychymyg. Gallai hyn fod mewn unrhyw le neu leoliad, dan do neu yn yr awyr agored, mewn amgylchedd naturiol neu mewn lle yn y ddinas.

Gall darparu amgylchedd amrywiol a diddorol annog cymdeithasu a chreadigrwydd, wrth ddarparu cyfleoedd i brofi teimladau newydd, darganfod synhwyrau trwy chwarae, mentro a goresgyn heriau hefyd.

Does dim cost i’ch plentyn fynd i’r sesiwn chwarae. 

Ymysg yr adnoddau y gellid dod ar eu traws mewn sesiwn chwarae mae:

  • coginio,
  • adeiladu ffau,
  • gwnïo,
  • gwisgo i fyny,
  • chwarae rhannau rhydd (adeiladu, trin a dylunio gan ddefnyddio gwahanol wrthrychau a deunyddiau),
  • eitemau gemau a chwaraeon ac
  • amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft fel creu pypedau, gemwaith, cardiau, masgiau, clai, modelu sothach.

Mae cynlluniau chwarae’n dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau Cyngor Caerdydd. Gallwch eu darllen ar unrhyw adeg trwy ofyn i unrhyw aelod o staff. Mae’r polisïau’n cynnwys:

  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Polisi Dim Ysmygu
  • Gweithdrefn Gwyno
  • Polisi Chwarae Mynediad Agored
  • Polisi Ymddygiad
  • Polisi Diogelu
  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoledig

Rydym yn hybu iechyd da plant trwy sicrhau bod y lleoliad a’r offer yn cael eu cadw’n lân ac yn ddiogel. Mae gan bob aelod o’r Tîm Chwarae gymhwyster hyfforddi Cymorth Cyntaf Pediatrig, ac mae gan fwyafrif y tîm dystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2.

Os bydd eich plentyn yn cyrraedd y sesiwn yn sâl neu’n mynd yn sâl yn ystod y sesiwn a bod angen ei gasglu, byddwn yn ceisio cysylltu â chi yn gyntaf i gasglu eich plentyn cyn gynted â phosibl. Os nad ydych ar gael, byddwn yn mynd yn systematig trwy’r cysylltiadau brys. Mae hyn er mwyn osgoi trosglwyddo’r salwch i blant eraill.

Os bydd argyfwng yn digwydd ar unrhyw adeg yn ystod sesiwn, byddwn yn cysylltu â’r gwasanaethau brys cyn cysylltu â chi. Os bydd angen, gellir gofyn am driniaeth neu gyngor gan y gwasanaethau meddygol brys. Gofynnir i chi ganiatáu i ni wneud hyn ar eich ffurflen gofrestru.

Byddwn yn ystyried pob cais i roi meddyginiaeth yn unigol, gan fod hyn yn rhywbeth nad oes rhaid i ni gytuno iddo.

Ni allwn roi meddyginiaethau siop neu dros-y-cownter i blentyn o dan unrhyw amgylchiadau. Dim ond meddyginiaethau hanfodol trwy bresgripsiwn y gallwn eu rhoi.

Os oes angen gwybodaeth dechnegol neu feddygol ar gyfer y feddyginiaeth, er enghraifft Epipen, bydd angen hyfforddiant penodol ar y Tîm Chwarae gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol cyn rhoi unrhyw feddyginiaeth, neu os yw’r plentyn yn mynychu’r lleoliad.

Rhaid bod pob plentyn wedi’i gofrestru i fynychu’r sesiynau chwarae. Gallwch lenwi ffurflen gofrestru ar ddechrau sesiwn gyntaf eich plentyn.