Mae’r prosiect Siediau Chwarae yn cael ei redeg mewn partneriaeth â siop sborion ReCreate. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect.
Nod prosiect Siediau Chwarae yw darparu profiadau chwarae i blant dan arweiniad y gymuned.
Mae siediau yn cael eu cynnal:
- Mewn ardaloedd cymunedol
- Ar dir ysgol
- Mewn clybiau
- Mannau gwyrdd

Mae’r Siediau Chwarae yn cynnwys cynhwysydd metel 2x2m, sy’n gartref i ystod o adnoddau chwarae rhannau rhydd, er enghraifft pibellau, pren, rhannau cyfrifiadurol wedi’u hailgylchu, casgenni, cratiau, rhaffau, rhwydi, teiars a ffabrig, gan gynnig dewis chwarae amgen newidiol.
Byddwch chi hefyd yn elwa ar:
- Hyfforddiant mewn rhannau rhydd
- Hyfforddiant budd risg
- Hyfforddiant chwarae
- Cyhoeddiad pecyn cymorth Chwarae Cymru
- Adnoddau ychwanegol oddi wrth ReCreate
- Sied Chwarae wedi’i bersonoli a’i baentio gan artist lleol
Bwriad prosiect ‘Play Shacks’ yw bod yn ased cymunedol. Gall mudiadau gwirfoddol, darpariaethau chwarae a grwpiau cymunedol wneud cais.
Ar hyn o bryd mae 5 Sied Chwarae wedi’u sefydlu mewn safleoedd o amgylch Caerdydd:
- Cwt Chwarae Gerddi’r Rheilffordd – Adeline Street, Y Sblot, CF24 2BH
- Cwt Chwarae Creigiau – Parc y Coed, Nant Coslech, Creigiau
- Cwr Chwarae Pafiliwn Grange – Gerddi’r Faenor, Grangetown, CF11 7LJ
- Cwt Chwarae Neuadd Llanrhymni – Ball Road, Llanrhymni, CF3 4JJ

